Es mostren els missatges amb l'etiqueta de comentaris cariadon. Mostrar tots els missatges
Es mostren els missatges amb l'etiqueta de comentaris cariadon. Mostrar tots els missatges

dijous, d’agost 17, 2006

Y sgwrs â J (Welsh)

Doe, mi ges i sgwrs arlein efo J, yr hen gyfaill annwyl o'r post cynt. Roedd yn sgwrs yn hollol annisgwyl ac yn hollol ryfedd. Roedd o eisiau 'ngweld i ar ôl y mis maith ma i gyd, ond fel llawer gwaith, doedd o ddim yn gallu dianc rhag ei fywyd bob dydd i ddod at ei fywyd cyfrinachol ac at fy mreichiau i. Y gwir yw, rwyf yn teimlo dyddiau 'ma, mae ein perthynas, beth bynnag y bo, wedi troi yn gof-byw, yn cael ei gyflwyno ar lwyfan y bydysawd yn unig trwy gofio sut oedd o, heb obaith o gael ei adnewyddu fyth eto. Mewn math o ddalfa y mae o rŵan. Pam? Dwi'm yn saf. Am ba mor hir? Sdim yr un syniad gen i. Dydy o ddim yn rhannu ei fywyd bob dydd efo fi, dim un sleisyn ohono, 'mond i adael rhyw bishyn bach ddisgyn i mewn i ryw sgwrs o bryd i bryd.

Ond heddiw, mi naeth rywbeth gwahanol. Roedd yn dweud wrthyf pa mor dda o gariad ydwyf iddo, pa mor dda 'mod i'n neud iddo fo deimlo, hyd at y pwynt lle roedd o bron eisiau denfyddio'r gair "C" efo fi; na beth wedodd o wrthyf.

Roeddwn yn synnu. Roeddwn yn dawel am ysbaid wedyn, a gofynodd petasai fo wedi rhoi ofn arnaf. Na, atebais i, nest ti ddim... Y gwir yw mod i ddim yn ei garu o, ac hyd at hyn, doedd o ddim yn cyfaddef ei gariad tragywyddol imi ychwaith, ond i ddyn sy 'di aros yn dawel am amser mor hir, roedd yn gyfaddef annisgwyl yn llwyr.

Mi ges i freuddwyd rhyw dro, ac yn y breuddwyd roeddwn yn hŷn, ngwallt wedi llwydu mwy, a mi ddaeth J ataf, mewn cotyn hir du, i ddweud wrthyf yr oedd yn gadael yr ardal. Ond, roedd o am fy niolch oherwydd roeddwn wedi bod yn gyfaill arbennig iddo. 'Na roedd diwedd y breuddwyd. Cofleidion ni, ac ymadeodd, yn troi gefn ac yn cerdded i ffwrdd fyny'r stryd.

Yn ara' deg, dwi 'di bod yn agor ei feddwl, ei rywoliaeth, ond ei galon?

Roedd yn deimlad rhyfedd oedd wedi codi yn fy nghalon i ddoe ar ôl ein sgwrs. Dyna'r tro cyntaf i ddyn fel yntau ddweud rhwybeth felly wrthyf. Roedd yn hwb ac yn boen, yn felys ac yn chwerw, yn fy ngadael i yn yr lle lle dwi 'di bod ers blynyddoedd, y cyd-destun perffaith i'm hoes...

dimecres, de juliol 26, 2006

Hen gyfaill arbennig yn ymweld (Welsh)

Y gwir yw yr oeddwn yn ei golli i fo. Roedd hi wedi bod yn amser maith er pan iddo ddod i ymweld â fi, a heno roedd o'n rhydd. Pam? Dwi'm yn saf. Ta waith, roedd yn rhydd i ddod i fy ngweld i ar ei feic mawr. Roedd yn secsi iawn i'w weld o'n dod ata'i efo'i helmet ar ei ben, a gwen ar ei wedd, ei lygaid yn disgleirio. Roeddwn yn falch i'w dderbyn yn fy mreichiau, â rhannau eraill hyd at hyn, hen gyfaill arbennig wedi dod yn ôl ar ôl ysbaid rhy hir. Fyddaf yn ei weld rhrw dro arall, os bydd ei fywyd cyfrinachol yn ei adael? Yn bechodol, yn hunanol, rwyf yn ei obeithio....