dissabte, de juny 02, 2007

Ewythr (Welsh)

Heno, mi ges i gyfle i siarad am frawd fy nhad, sef f'ewythr Terry. Roedd yn od i feddwl amdano fo, dyn sy wedi marw rhai flynyddoedd yn ôl, a dyn nad oeddwn yn ei hoffi un llymaid, ond roedd fy ffrind Anna a fi yn sgwrsio am neidr a chrwbanod, a hynny 'naeth imi feddwl am y tro pan aeth Terry ma's i'r corsydd i hela crwban i gawl.

Dyn bach oedd o, yn 5'9'' os oedd o mor dal â hyn, â chroen braidd Eidalaidd, oedd yn od i'n teulu ni. Gallai dyn ddweud taw mab y dyn llefrith oedd o, ac mae'n wir i'w ddweud tra roedd o'n edrych fel fy nain, doedd o ddim yn edrych llawer fel fy nhaid. Truan o ddyn oedd o hefyd, tu hwnt i'w dalder. 'Naeth o eni'n ddi-fawd llaw ac efo un garreg, felly trwy'i oes, teimlodd fel roedd yn rhaid iddo brofi ei hunan o flaen bawb fel dyn cryfach y gornel, ond ei nerth oedd ond yn gwaeddu'n frwnt ac yn bod yn hyll i bawb yn ei lwybr, oherwydd er gwaethaf ei geisiadau, dyn bach gwan oedd o drwy'i oes, efo bysoedd troed mawr ar ei ddwylo lle dylai bodiau-llaw fod.

Rwyf yn cofio'r dydd pan gafodd y syniad i 'neud Cawl Crwban. Yn nhŷ fy nhaid oedd o y dydd hwnnw, wedi cael bol llawn o gwrw a chwisgi, ac roedd yn chwedlu am ryw dro (ffug mae'n debyg oherwydd gelwyddgi ofnadwy oedd o hefyd!) pan aeth rhyw ffrind a fo ma's i hela crwbanod, a dalion nhw rai, a 'naethon nhw gawl mor flasus. Roedd fy nhaid wedi meddwi erbyn hyn (roedd yn unarddeg o'r gloch yn bore fel cofiaf i, yn ddydd trwm, poeth fel oedd yn debyg yn ystod haf fy mro, a'r wybren yn llwyd â chymylau), ac roedd o'n ei galonogi, a'r ddau ohonyn nhw'n rhy feddw i wybod beth oedd yn wir yn mynd ymlaen. Felly, mi aeth f'ewythr ma's i'r corsydd oedd tu ôl i dŷ fy nhaid (ei dŷ o oedd bwthyn bach gwyn ar gyrion y dref). Roedden ni'r llaill (fy nhaid, fy nain a fi) yn aros amdano fo yn ôl yn y tŷ, ac o'r diwedd daeth o'n ôl efo rhyw grwban brathog, yn fyw ac yn ymladd am ei bywyd o hyd. Penderfynodd f'ewythr berffomio'i driniaeth marwol yn y gegin yn lle yr ardd gefn lle byddai'r gwaed wedi llifo i mewn i'r tir: yn y gegin byddai'r gwaed yn cael ei rinso i lawr y sinc a byddai'n llawer mwy dramatig.

Mam oedd y crwban i fod, a dysgon ni hynny pan gymerodd Terry gyllell o'r drôr i dorri rhan isaf y gragen i ffwrdd. Fel y ceisiodd, mi agorodd o ei chwdyn wyau, a daeth rhyw hanner dwsin o wyau ma's ar y cownter. Naeth o eu casglu nhw mewn bolen, a aeth yn ôl at ei waith.

Ar ôl iddo ladrata'i hwyau, sylweddolodd yr oedd yn rhaid iddo'i lladd yn llwyr cyn ei throi'n gawl. Nid allai fo dorri'r holl ffordd drwy'i stumog i'w lladd, oherwydd hyd yn oed gwaelod ei chragen oedd yn rhy gryf i'w lladd â chyllell. Felly, penderfynodd o dorri ei phen hi ymaith. Hon oedd joben anodd oherwydd, fel unrhyw grwban rhesymeg oedd yn cael ei lladd, roedd hi'n cuddio'i phen hi yn ei chragen. Mi weithiodd a gweithiodd Terry i dynnu ei phen hi ma's, ac o'r diwedd llwydianodd. Yn anffodus iawn i Terry, fel y tynnodd o ei phen hi ma's yn llwyddianus, roedd ei fys cyntaf yn rhy agos i'w cheg, a 'naeth hi gau ei phig arno. Dyma oedd dyn yn ei bedwar degau efo pigyn crwban ar gau'n dynn ar ei fys cyntaf! A hwn yn sgrechian ac yn defnyddio pob iaith yn y gegin. Mi aeth fy nain allan i'r gegin i weld beth oedd y stŵr, ond 'naeth hi ddim ond chwerthin am bennau bach bob un ohonyn ni yn y gegin, ac aeth i'r oergyn i nol potelaid o gwrw gan ddweud wrthon ni nad oedd neb o'n sir ni yn saf dim byd am 'neud Cawl Crwban, ac ymaith â hi'n ôl i'r 'stafell fyw lle roedd hi'n gwylio The Price Is Right neu rywbeth.

Ar ôl hynny, mi geisiodd Terry dynnu ei fyd ma's o geg y crwban, ond oedd am gael ei gwynebwerth tan y diwedd! O'r diwedd, mi gymerodd f'ewythr gyllell fwy o'r drôr a thorodd o ei phen ymaith yn llwyr, ond gan fod crwban yn hen fath o greadur, doedd hynny ddim yn ddigon i agor ei phigyn, felly dyma oedd ei chorff yn colli gwaed coch tywyll ar draws y cownter gwyn metel, ei choesau yn symud rhyw ychydig o hyd, ond roedd ei phen a'i phigyn yn dal yn dynn ar ei fys cyntaf. Daliodd at sgrechian a defnyddio pob iaith. O'r diwedd 'naeth o droi a mynd allan i'r garej lle canfyddodd o bâr o bleiars a llwyddianodd o, o'r diwedd, dynnu ei phen hi oddi ar ey fys. Ar ôl hynny, gwaith braidd yn syml oedd hi i dynnu'r cig ma's o'r gragen. O'r diwedd mi 'naeth pob darn o gig a'r wyau i mewn i'r cawl, oedd yn wir yn blasu fel corsydd wedi'r cwbl.

Stori dda iawn ydy hon i ddarlunio bywyd f'ewythr. Roedd yn ddyn bach meddw oedd yn drwgddweud pawb o flaen ei lygaid. Grace à Dieu fu farw blynyddoedd yn ôl, yn rhy ifanc i ddyn ei oes, ond yn lwcus cyn iddo ladd dyn arall, mor ddig o ddyn oedd o. Mi 'naeth o farw o'r diwedd o gancr yr afu, wedi dioddef yn ei oes o galedwch yr afu, a llid yr afu.

Yntau oedd y cyntaf o deulu fy nhad i farw. Wedyn, mi 'naeth fy nain farw ar ôl ei hail strôc. Nesaf oedd fy nhad o niwmonia, ac o'r diwedd fy nhaid o gancr yr afu.