diumenge, de març 12, 2006

Eiliad Tangnefedd (Welsh)

Mae tangnefedd o rywfath wedi dod ataf i heddiw. Mae'n anodd i egluro'n fanwl, ac rwyf yn siwr na fydd yn byw am amser hir, dyna ffordd tangnefedd yn fy mhrofiad i. Ta waith, roedd y teimlad yn bleser. Nid wyf yn siarad am rywfath o 'yswtyth' ychwaith, ond des i at fy nghoed, a thrwy ddod et fy nghoed, canfyddais i'r tangnefedd rwyf yn siarad amdano.

Roeddwn i gwrdd â dyn prynhawn 'ma. Dyn arall, dyddiad arall, un mwy mewn cyfres hir o fethiad sy'n tarddu o'm ieunctid a sydd wedi parhau tan heddiw. Ond y gwir oedd, pan godais i bore'ma, roeddwn yn teimlo fel na fyddai'r dyn hwn ym ymddangos. Rwyf wedi cael y fath hon o syniad o'r blaen, math o chwefed synhwyr ydyw, ac mae'n iawn fel arfer. Wrth gwrs, heddiw hefyd, roedd fy chwefed synhwyr yn hollol cywir. Ymddangosodd o ddim.

Ond beth sydd yn fwy rhyfedd, doeddwn i ddim eisiau iddo ymddangos ychwaith. Efallai oherweydd dwy wythnos o ddioddef efo'r annwyd hwn, doeddwn i ddim yn teimlo'n rhy sywnol, ond yn nirgel ddyn fy nghalon, rwyf yn credu y tyfodd blinder y proses yn rhy uchel yn fy mod, timod, y proses, y gêm, yr hen hela, y mynd yn ôl ac ymlaen, ac i beth? Byddai y chwedl hwn wedi dod i ben yn yr un ffordd â'r unau eraill. Mae hwn yn sicr o'r olwg, oherwydd cychwynodd fel cymaint ohonynt! Dyma ryw ddyn sydd am gwrdd â fi. Mae o'n dweud 'mod i'n edrych yn sbesial, yn wahanol, fel rywun fyddai'n ei ddeall, ayyb... Dyna ni, rydyn ni'n siarad arlein a thrwy'r e-bost, ac rydyn ni'n trefnu adeg i gwrdd am y tro cyntaf. Sawl gwaith (fel heddiw) mae'n ffaelu ymddangos yn y lle, ac heb ffonio i ddweud fod yn ddrwg ganddo. Sawl gwaith, does dim yr un gair oddi wrtho eto byth!

Felly heddiw, roeddwn yn teimlo blinder yr hen frwydr yn eistedd yn drwm yn fy nghalon. Ta waith, mi es i le'r dyddiau yn gynnar, ac yfais i paned o de. Ac arhosais i. Bron tri chwarter awr. Roedd y te'n dda ta waith. Ac wedyn mi es i ymaith i'r archfarchnad. O leiaf daeth rhywbeth da o'r dydd hwn: roedd yr oergell yn wag.

Ar y ffordd o'r caffi i'r archfarchnad, teimlais esmwythâd mawr, tipyn bach fel pan fyddi di'n mynd i'r meddyg i gael prawf, ac mae'r atebion yn dda. Roeddwn yn falch na ddaeth o, nad oedd rhaid imi bryderu am chwarae'r gêm efo fo. Ac wedyn, yr eiliad o dangnefedd...

Y gwir yw does dim rhaid imi gael cymar. Dwi ddim eisiau magu plant, does dim rhaid imi ddibynnu ar unrhywun arall am arian. Mae gen i dŷ a cheir, cyfeillion a phrofiadau da erbyn byn. Meddyliais am yr hen gymdoges pan roeddwn yn tyfu yn ôl ym Mhennsylfania, Millie. Dywedai hi, "does dim angen dyn arna'i, pam dylwn i briodi? Mae gen i jobyn, mae gen i lestri a dodrefn, mae gen i gar, pa ddefnydd yw dyn?"

Roedd hi'n gywir wrth gwrs, ond ar y llaw arall roedd gan Millie rhywbeth sy ddim gen i. Roedd ganddi gymar, a'y henw hi oedd Helen. (Hon yw stori am dro arall, stori Millie a Helen, yn fy marn i, stori serch fwyaf sydd heb ei dweud...) Ond mae ysbryd neges Millie yn iawn o hyd. Mae gen i bobeth sydd yn rhaid. Pa ddefnydd yw dyn?

Mae gen i le yn fy mywyd o hyd i un, lle sydd yn canfod ei wreiddiau yn yr hen freuddwyd ardegol sydd wedi fy melltithio (a bydd rwyf yn siŵr am flynyddoedd i ddod). Ond heddiw, derbyniais i'r posiblrwydd taw dim ond breuddwyd ydyw. A dywedodd neb bod breuddwydion yn dod yn wir...

Do, derbyniais i'r posiblrwydd ac yn lle bod yn drist, doeddwn i ddim. Roeddwn i'n teimlo'r tangnefedd a'r esmwythâd hyn, ac mi es i ymlaen i'r archfachnad yn hapus.