dilluns, d’octubre 23, 2006

Llifo ar Ddyfroedd Duw (Welsh)

Heno
rhwng y coed a'r maes
y gwreiddion a'r dail a'r ffrwythau
mae heddwch
a thangnefedd

Heno
rwyf yn nofio ar lyn tegid
yn llifo dros y tonnau tawel
yn ddi-bryder
mae Duw yn cerdded efo fi erbyn hyn

beth bynnag y bo

y bydysawd efallai
a'i gerdd theta hir a chudd
sibrwd cyntaf y cwestiwn mawr
y gair gwreiddiol sy'n hwylio o hyd
ar donnau du y Bod Mawr

A dyma fi
enaid bach ar goll ar y môr mawr hwn
yn llifo ac yn aros i weld
lle bydd y teit yn tynnu fy llinyn arian
ar y daith fawr hon o fan i fan

Llifo, llifo rwyf
yn dal i obeithio
y bydd y tonnau yn fy nhywys i
o ban i ban
am byth