diumenge, de novembre 05, 2006

Noson oer Tachwedd

Roedd neithiwr yn digaloni.

Mi wnes i benderfynu o'r diwedd mynd allan i'r Noson Arth yn un o'r clybiau hoyw yma yn y cylch. Dim y tro cyntaf imi fynd i un ohonon nhw, ond roedd yn fethiant llwyr ta waith. Do, mi welais hen gariadon a phobl eraill oeddwn yn eu hadnabod, ond gadeais i fel y des i mewn, ar ben fy hun. Dwi ddim yn ffitio i mewn i'r sîn hoyw. Dwi ddim yn deall y rheoli. Dwi'n gallu gweithio o flaen twrf enfawr o bobl, dwi'n gallu dysgu, gwneud pob dim gan fod yn gymeriad cyhoeddus, ond yno, popeth 'mod i'n ei wybod am sut i drefnu pobl, am sut mae pobl yn behafio yn hedfan yn syth trwy'r drws. Minnau, dwi am siarad â rhywun, mynd ar ddyddiad bach gwych, ac wedyn os daw popeth yn iawn, mynd yn ôl i'w le neu i fy lle i, a gweld os oes rhywfath o chemeg yno, yn cofleidio a dal dwylo a chusanu.

Ond minnau, dwi'n byw mewn ffantasi. 'Sdim llawer o ddiddodeb ganddyn nhw yn y fath hon o beth. Maen nhw eisiau imi fod yn ffantasi iddyn nhw, i dynnu fy lle mewn byd ffug lle nad wyf i ddim yn gallu bodoli. Does na'r nerth na'r gallu gennyf i lenwi'r lle gwag yn eu bywydau nhw. Swn i eisiau dweud calonnau, ond dwi'm yn saf os oes calonnau ganddynt. Dyn pob dydd ydw i hyd at hyn, neb arbennig, a siŵr o fod, dim dyn sy'n cerdded allan o ryw fideo chwilboeth. Hyd at fy mreuddwydion perthnasol, dwi ddim ond eisiau rhywbeth syml, ond mor syml ag ydy, mae o mor ffug hefyd. Mae gen i anrheg syml i'w gynnig, efallai mor syml nad oes neb sydd amdano fo, oherwydd breuddwyd cyffredin ydy. Os hwnnw yw'r achos, mae'n well 'da fi atal y breuddwyd rŵan, neu, o leiaf, atal breuddwydio.

Yn anffodus iawn imi ac i'm breuddwyd bach cul, rwyf yn canfod fy hun ar goll rŵan, mewn coed du a dwfn, mewn byd sydd yn bodoli yn yr huis clos, ond y lleill sydd yn bodoli yn yr un uffern â fi, dydyn nhw ddim, eu hunain yn uffern im, yn bell beth. Y Cŵn Annwn ydyn nhw, a'u lleisiau yn gysur imi erbyn hyn fel rwyf yn dal at y daith wyrgam i'r bedd. Fel mae cyfarth y Cŵn Annwn yn uwch pan fydd dy farwolaeth ymhell i ffwrdd, mae lleisiau yr unau câr yn swyn imi rŵan, oherwydd rwyf yn eu clywed o hyd. Yn y chwedl am y Cŵn Annwn, mae eu cyfarth yn tawelu ac yn tawelu fel y maen nhw'n dod yn agosach atat ti ac at awr dy farwolaeth. Erbyn hyn, mae pobl gâr yn fy nghylch o hyd, ond maen nhw'n mynd y brin. Mae'r teulu bron i gyd wedi ymadael erbyn hyn; yn fuan dim ond cyfeillion fydd. Mae mam yn hen ac mae fy mrawd yn wael ac yn wan. Dwi ddim yn meddwl yn bydd o'n byw yn hen. Felly, fel y dringaf i i mewn i'r bedd bach oer fy huis clos fydd dim y bobl yn fy nghylch i, ond tawelwch eu hysbrydion pan fyddaf yn hiraethu am gyfarth eu gyddfau.

Fy nhynged: Byddaf yn marw yn hŷn, neu'n hen ac yn unig, dim ond fy nghofion fydd yn gysur imi wrth y munudau curus a phoenus olaf. Efallai mae bwriad yn y bydysawd angwybodadwy hwn wedi'r cwbl. Efallai rwyf yn byw trwy felltith, rhyw hen felltith wedi'w roi arnaf bywyd neu fywydau yn ôl. Rwyf yn ei obeithio, yn wir ac yn ddwfn. Dwi eisiau iddi fod yn bwynt i'r poen a chur sydd yn llenwi'm enaid. Dim hogyn perffaith oeddwn yn y bywyd hwn o bell ffordd, ond wnes i ddim byd i deilyngu marw heb neb i dynnu fy ngorff i'r amlosgfa.