dimecres, de juliol 04, 2007

Lle mae 'nghariad (Welsh)

Llwyau Cariad Cymreig i Hoywon!

Dyma'r safle:

http://www.pincproducts.com/

Rŵan 'ta, lle mae 'nghariad i?

"Dacw Nghariad i lawr yn y Berllan"

Dacw nghariad i lawr yn y berllan
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
O na bawn i yno fy hunan
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
Dacw'r tŷ a dacw'r sgubor
Dacw ddrws y beudy'n agor
Ffal-di rwdl idl-al
Ffal-di rwdl idl-al
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al

Dacw'r dderwen wych ganghennog
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
Golwg arni sydd dra serchog :
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
Mi arhosaf dan ei chysgod
Nes daw 'nghariad i 'nghyfarfod.
Ffal-di rwdl idl-al
Ffal-di rwdl idl-al
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al

Dacw'r delyn, dacw'r tannau
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
Beth wyf gwell heb neb i'w chwarae?
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
Dacw'r feinwen hoenus, fanwl
Beth wyf nes heb gael ei meddwl?
Ffal-di rwdl idl-al
Ffal-di rwdl idl-al
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al