dilluns, de setembre 05, 2005

Meddyliau dros Orlians Newydd (Welsh)

Mae Orlians Newydd wedi bod yn fy meddyliau ers wythnos rŵan, a'r cyfeillion sydd yn byw draw. Mae hi wedi bod yn wythnos heb newyddion odd wrthynt, ac wrth gwrs rwyf yn meddwl amdanon nhw, yn ymofyn os ydyn nhw wedi dianc rhag y llifogydd. Rwyf yn siŵr y bydd ychydig mwy o amser yn mynd heibio cyn i mi gael gair o gwbl amdanon nhw. Dyna sut mae pethau ar hyn o bryd. Mae newyddion am bobl o'r ddinas yn brin ac mae pawb yn ymdrechu i weld beth sydd ar ôl o'u bywydau.

Bydd Barbara yn pryderu, rwyf yn siŵr iawn, ac yn ymofyn os ydy hi'n werth y trafferth i fynd yn ôl i'r ddinas Gantre'r Gwaelodig i fyw - efallai bydd hi'n ymddeol a mynd i ffwrdd i fyw efo'o merch yn Atlanta. Fel yna, byddai hyn i gyd yn ddiwedd oes iddi hi ac i mi - oherwydd amswer mor faith 'mod i wedi bod yn mynd yno.

Dwi'm yn gwybod - does dim meddyliau dwfn gennyf i sgwennu am ail ddinas hoff fy nirgel ddyn. Does dim on gobaith heno i le mor agos imi a'i phobl...