diumenge, de desembre 11, 2005

Eiliad Perffaith (Welsh / English)

Doe mi ddaeth
Eiliad perffaith i farw
Roedd y tŷ yn dawel iawn
a'r stryd a'r cylch
Roeddwn yn eistedd yn fy 'stafell las
rhwng y ffenestri bae
lle gallwn i sbio ar yr eira
yn gorwedd ar y tiroedd
yr haul yn machlud wrth ben y stryd
o dan wybren o gymylau trwm llwyd
Roedd y tŷ yn gynnes
siocledi yn aros ar y bwrdd coffi
y gerddoriaeth glasurol yn canu'n isel
Chopin oedd
a fi'n disgwyl ymwelwyr
oedd yn dod i ddathlu fy mhenblwydd
Roedd y stafelloedd yn dywyll â machlud yr haul
Goleuni'r stafell fwyta wedi'u troi'n isel
fy nghotyn hir du yn crogi ar draws un o'r cadeiriau
yn barod i fy nhaith i'r bwyty bras lle dathlen ni
gyda thoc a thic y clociau'n carlamu
Roeddwn yn eistedd yn drwm
yn hapus ac yn blwm
yn fy nghadair freichiau
gwydraid o wisgi Cymreig yn fy llaw
a fi ynghylch y pethau hardd a bras y casglaswn
yn Ffrainc, yng Nghymru, ymhobman lle trafaelais i
fi ynghylch yr anrhegion a chofion câr
oddi wrth gariadon, gyfeillion a pherthnasau eraill
Doe mi ddaeth eilaid perffaith i farw
Pechod na wnes i ddim.

Yesterday came
A perfect moment to die
The house was so quiet
and the street and the neighborhood
I was sitting in my blue room
between the bay windows
where I could spy the snow
laying on the land
the sun setting at the end of the street
below a sky of heavy grey cloud
The house was warm
chocolates waiting on the coffee table
classical music playing in the background
it was Chopin
and I awaiting guests coming to celebrate my birthday
The rooms were dark with the setting sun
The dining room lights turned down low
my long black coat hanging across one of the chairs
ready for my journey to the restaurant where we would sup
the tock of the clock knocking
I was sitting heavily
happily like lead
in my armchair
a glass of Welsh whiskey in my hand
and I amidst the pretty, lovely things I had gathered
in France and Wales, everywhere I travelled
I amidst the dear gifts and memories
from lovers, friends and family
Yesterday came a perfect moment to die
A pity that I did not.