unig yw dy fyd
ynghylch dy gyngerddi
dy freuddwydion
cymunedau'r bobl goll fel tithau
ti ddim yn meddwl wrth neb
dim yn wir
dim ond mynd o bonc i fonc
fel pêl pinball
yfed cwrw a fodca rhad
smocio coc a chanfod cyfaill dros dro
dy fyd yw byd yr holl hoywon
yr holl ddynion â châl ar y meddwl
does dim pobl eraill yn y dy fyd
mae bodiau yn dal i fod yn adloniant
actorion ar lwyfan lle ti'n medru dy eiriau melys
dy sibrydion cariadus
dalfaoedd bychain a charedig
lle ti'n casglu calonnau
fel anifeiliaid yn y sŵ
lle ti'n gallu sbio arnon yn ôl dy eisiau
Meistr y bwystfilod a siwgr yn ei law
a medd yn ei geg
ti sy'n rheoli'r sioe - yn dy ben
A thi heb weld nad oes neb
yn llenwi'r seddau
yn y gynulleidfa
dimecres, de novembre 16, 2005
Subscriure's a:
Comentaris del missatge (Atom)
3 comentaris:
Bydde hwn yn mynd lawr yn dda yn yr Eisteddfod Genedlaethol ;-)
Dwi ddim yn un am farddoniaeth rhyw lawer, ond dwi'n gwbod am un neu ddau gylchgrawn efallai fyddai diddordeb mewn cynnwys barddiaeth am bynciau na drafodi'r yn aml. Fydde gyda ti ddiddordeb petawn yn eu cyfeirio at y blog hwn? Eu henwau yw 'Tu Chwith' a 'Siarc Marw'.
Sut hwyl Rhys,
Siwr, os oes rhwyun eisiau gweld fy mlog i , mae'n iawn. Swn i ddim yn meddwl yn wir y byddai diddordeb enfawr yn y pethau 'mod i'n sgwennu, ond pwy a wyr? =)
Oes blog 'da thi? Doedd dim proffeil pan wnes i glicio ar dy enw...
Oes, sawl un. Dwi wedi bod yn ffidlan gyda fy mhroffeil a doeddwn i ddim yn ymwybodol bod hyn yn digwydd - diolch am adael i mi wybod.
Tra gai gyfle i'w drwsio, cyfeiriad fy mlog yw
www.gwenudanfysiau.blogspot.com
www.de-ddwyrain.blogspot.com
Publica un comentari a l'entrada