dilluns, de gener 16, 2006

Ar fy Mhen fy Hun (Welsh)

Heno mi ddaeth neges oddi wrth rai Sergey o Rwsia bell. Pwy ydy o ta waith? Dwi'm yn gwybod. Bot o bob golwg; mae'r botiau yn sgwennu rŵan, yn Saesneg ddrwg. Olreit, chwarae teg iddo, mae rhyw ddyn gwir tu ôl i bersonaliaeth Sergey, ac mae'n bosib iawn taw Sergey yw ei enw o. Mae o'n dweud yn ei lythyr ei fod o'n chwilio am ramant, am berthynas gwir efo dyn arall. Siŵr o fod y byddai! Dyna pam mae o'di sgwennu nodyn ataf i, a fi yn byw yn America, byd i ffwrdd o dymhestloedd Rwsia a'i chylch. Fyddai fo, petasai fo'n berson gwir, yn gallu symud i America? Na fyddai, wrth gwrs; yntau yw un olygfa gas arall ar dir breuddwydion bychain, ar dir fy mreuddwydion i.

Ydyn, mae'n nhw fy mynychu fi o hyd, y breuddwydion hyn, y breuddwydion cas. Hyd at hynny, maen nhw mor gryf yn ystod f'eiliadau gwan.

Fel rŵan.

Mae Jeremy 'di diflannu unwaith eto. Dim y tro cyntaf iddo ddianc rhagddof a chuddio ydy hwn, ond ta waith, bob tro ei fod o'n rhedeg i ffwrdd i freichiau ac i garu rhywun arall, bo'n ddyn neu'n ddynes, mae lwmp yn codi yn fy ngwddf. Hwn fydd y tro pan fydd o'n fy ngadael am byth, dwi'n feddwl.

Ac o hyd, does dim hawl gen i deimlo fel hyn amdano, dim hawl o gwbl. Ddylai'r perthynas hwn ddim fod fel yna, perthynas lle mae un yn pryderu. Perthynas sy'n dod â'i ffrwythau fel mae had yn chwythu ar y gwynt ydy o.

Ond, hawl neu ddim, rwyf yn pryderu amdano fo, dim yn pryderu ei fod o wedi cwrdd â rhyw ddiwedd drwg, ond pryderu ei fod o wedi syrthio mewn cariad â rhywun arall. O, y gosb fwyaf, y diawl, y byddo fo wedi syrthio mewn cariad o gwbl, ag unrhywun... digon drwg y canfyddodd o rywun sy'n well gynno fo fwchio na mwchio fi. Mae o mewn dyled i mi ta waith, ar ôl dwy flynedd ac hanner o'i garu yn well na phawb arall yn ei fywyd, ei eiriau o, dim fy meddyliau fi.

Mi ofynnais iddo fo unwaith os oedd yn bosib, un dydd, y byddai fo yn fy nghgaru'n gywir. Na fydd, atebodd. Felly, fy melltith arno fo yw os nad wyf yn gallu canfod cariad cywir, fydd o ddim ychwaith.

Ond fi oedd y ffŵl, ac yntau oedd yn hollol nerthol trwy'r amser. Roedd pethau'n gysurus efo fo, ei groen, ei aroglau, ei flas, ei flew, ei bresenoldeb. A fi oedd yn chwilio trwy'r amser am garaid cywir, fi oedd y celwyddgi yn fy ngeiriadur fy hun, ond oeddwn. Ond pam lai? Roedd o'n hollol onest pan ddywedai na fyddai fo fy ngharu.

Doeddwn i ddim yn mynd allan efo fo i fwytai, na thros y Sul i Fontrial ychwaith. Fi oedd ei gyfrinach mawr, ei gyfrinach claf, ei bechod.

A fi oedd y dyn llwyddianus, perchenog tai a cheir yn teithio i Ewrop am fis a mwy a'i adael o yma ar ei ben ei hun i ganfod bwch bach arall yn ystod f'absenoldeb. Pwy ydwyf i gwyno am fy lot yn y bywyd hwn? Chwarae teg iddo; ofynnodd o am arian erioed, ac roeddwn yn gwybod yr oedd arian yn brin iddo weithiau. Ddylwn i wedi rhoi anrheg o arian iddo? Fyddai hynny wedi ei ddal o ger fy mron? Rwyfyn ei hamhau. Mae'r ddawns hon yn gêm bach ein bod ni'n chwarae tan i'r flinder setlo i mewn. Fy mhroblem yw y blinodd yntau cyn imi.

Felly dyma fi yn meddwl ac yn pryderu amdano fo, a fi heb wybod pob dim amdano'n wir. Ai Jeremy ydy ei enw o tawaith? Ddywedodd celwydd am hynny? Mae o wedi rhannu ei ryw a'i gorff a'i had efo fi am ddwy flynedd ac hanner, ond dyna'r cwbl. Mae ei diriogaeth emosiynol a phersonol yn anwybodadwy'n llwyr imi o hyd.

Ond o hyd, rwyf yn eistedd ym yn meddwl amdano, wrtho, ac rwyf yn drist...