dimecres, de gener 04, 2006

Llythyr Blwyddyn Newydd i K (Welsh)

Hei na K,

Sut mae pethau erbyn hyn? Yn ôl dy lythyr mae'n edrych fel mae eich bywydau'n mynd ymlaen yn gangbusters iawn ;) Yma mae pethau wedi bod yn brysur iawn iawn ers fy nychwelyd wrth ganol mis Awst. Roedd y semestr diwethaf yn dda iawn, ond yn ofnadwy o brysur. Roedd gen i ryw barti neu gyfarfod cymdeithasol trwy'r amser, ac roedd gen i fwy na ddau gant o fyfyrwyr (wel dim ond 169 wrth y diwedd, maen'n rhaid lleihau'r llwyth drwy gydol y semester, ond oes?). Roedd yn ddrwg gen i nad oeddwn yn gallu dod i'r cyfarfod yn Harvard mis Hydref, roedd yr amserlen yn rhy lawn erbyn hynny. Est ti? Oedd yn dda?

Yn newyddion eraill, roedd ofn mawr arnaf yn ystod yr hwricên fawr yn Louisiana. Yn lwcus, roedd B M yn iawn trwy'r storm i gyd, a chan mwyaf roedd ei pherthnasau yn iawn hefyd. Roedd ychydig o ddinistriaeth yn ei chylch hi, ond roedd ei thy hi'n iawn tu hwnt i ychydig o niwed i'r bwthyn bach tu ôl i'r ty mawr. 'Naeth coeden ddisgyn ar lofft y bwthyn a naeth hi chwalu'r stafell wely oedd ynddi, ond bydd hyn yn ddigon hawdd i drwsio yn ei hôl hi. Doedd ei chwaer-yng-nghyfraith ddim mor lwcus. Roedd ei thy hi i lawr yn St. Bernard Parish, ac yno oedd llifogydd mawr. Roedd ei thy dan 12 troedfed o ddwr wrth ddiwedd y storm, colled llwyr. Yn lwcus, dim dynes dlawd ydy hi, a bydd hi'n gallu ailgodi'r ty os oes modd wrthi.

Ac ar fy mhlat i? Mae gen i gymaint o gynlluniau i darfod y gaeaf hwn. Yn obeithiol byddaf i wedi'u tarfod nhw i gyd erbyn yr haf. Dwi eisiau gorffen y gegin o'r diwedd hir yn fy fflat i. Honno yw'r brosiect fwyaf olaf yn y ty. Dwi eisiau hefyd gorffen y blydi traethawd, neu roi'r gorau iddo. Dwi hefyd yn sgwennu sgript am Gymru dros ddyn sydd am greu fideo am y wlad, ac mae hwn wedi dechrau'n barod, a bydd y rhan fwyaf o'r brosiect'na wedi dod i ben cyn hir. Mae'na siawns y byddan ni'n teithio i Gymru yr haf hwn i dynnu mwy o fideo o lefydd a gollodd sydd yn rhaid i 'neud stori llwyr. Hefyd mae cyfeilles o Ffrainc sy'n byw rwan yn Albany a fi am sgwennu llyfrdestun yn Ffrangeg , ac rydyn ni wedi canfod cyhoeddwr sydd yn ymddiddordebu ynddo'n barod. Felly, bydd gaeaf a gwanwyn llawn gen i, na na'n siwr.

A chyn i di ofyn, mae fy mywyd 'rhamantus' yn debyg i'r gorffenol! LOL - llawer o gyfeillion efo 'benies' a chariadon dros dro ;)

Reit, sgwenna pan fo amser gen ti - cofia fi at C a Ll!

Hwyl a het,
R