dijous, d’agost 17, 2006

Y sgwrs â J (Welsh)

Doe, mi ges i sgwrs arlein efo J, yr hen gyfaill annwyl o'r post cynt. Roedd yn sgwrs yn hollol annisgwyl ac yn hollol ryfedd. Roedd o eisiau 'ngweld i ar ôl y mis maith ma i gyd, ond fel llawer gwaith, doedd o ddim yn gallu dianc rhag ei fywyd bob dydd i ddod at ei fywyd cyfrinachol ac at fy mreichiau i. Y gwir yw, rwyf yn teimlo dyddiau 'ma, mae ein perthynas, beth bynnag y bo, wedi troi yn gof-byw, yn cael ei gyflwyno ar lwyfan y bydysawd yn unig trwy gofio sut oedd o, heb obaith o gael ei adnewyddu fyth eto. Mewn math o ddalfa y mae o rŵan. Pam? Dwi'm yn saf. Am ba mor hir? Sdim yr un syniad gen i. Dydy o ddim yn rhannu ei fywyd bob dydd efo fi, dim un sleisyn ohono, 'mond i adael rhyw bishyn bach ddisgyn i mewn i ryw sgwrs o bryd i bryd.

Ond heddiw, mi naeth rywbeth gwahanol. Roedd yn dweud wrthyf pa mor dda o gariad ydwyf iddo, pa mor dda 'mod i'n neud iddo fo deimlo, hyd at y pwynt lle roedd o bron eisiau denfyddio'r gair "C" efo fi; na beth wedodd o wrthyf.

Roeddwn yn synnu. Roeddwn yn dawel am ysbaid wedyn, a gofynodd petasai fo wedi rhoi ofn arnaf. Na, atebais i, nest ti ddim... Y gwir yw mod i ddim yn ei garu o, ac hyd at hyn, doedd o ddim yn cyfaddef ei gariad tragywyddol imi ychwaith, ond i ddyn sy 'di aros yn dawel am amser mor hir, roedd yn gyfaddef annisgwyl yn llwyr.

Mi ges i freuddwyd rhyw dro, ac yn y breuddwyd roeddwn yn hŷn, ngwallt wedi llwydu mwy, a mi ddaeth J ataf, mewn cotyn hir du, i ddweud wrthyf yr oedd yn gadael yr ardal. Ond, roedd o am fy niolch oherwydd roeddwn wedi bod yn gyfaill arbennig iddo. 'Na roedd diwedd y breuddwyd. Cofleidion ni, ac ymadeodd, yn troi gefn ac yn cerdded i ffwrdd fyny'r stryd.

Yn ara' deg, dwi 'di bod yn agor ei feddwl, ei rywoliaeth, ond ei galon?

Roedd yn deimlad rhyfedd oedd wedi codi yn fy nghalon i ddoe ar ôl ein sgwrs. Dyna'r tro cyntaf i ddyn fel yntau ddweud rhwybeth felly wrthyf. Roedd yn hwb ac yn boen, yn felys ac yn chwerw, yn fy ngadael i yn yr lle lle dwi 'di bod ers blynyddoedd, y cyd-destun perffaith i'm hoes...