dimecres, de setembre 20, 2006

Cerdd i Wacter Newydd (Welsh)

Duw, mae'n amser i gau y siop
Mae'r blydi pwll 'di cau
a sdim ond ysbrydion yn y dre erbyn hyn
wynebau llwyd, hir yn sbïo trwy ffenestri'r tai

Dwi'n cofio'r wynebau hyn
hen gariadon a hen berthnasau
nhw i gyd 'di mynd yn fy mlaen
yn gwacáu dyffryn fy serch mewn tân ymlosgfa

Sneb sydd am brynu fy stoc
Sneb i'w dderbyn am ddim
Mae olion y gorffenol yn llifo i ffwrdd
ar y gwynt fel hen bapurau newyddion

Dwi mor sych ag awel Awst
Mi nes i aros yma am amser rhy hir
Mae'n siŵr, aros am ddydd gwell
na fyddai dod byth

Mae popeth yn anodd erbyn hyn
bwyta, anadlu, gobeithio
Oerfel a phoen sydd draw yn fy nyffryn
yn trafaelio'n dynn â chofion llwyd doe

Mi nes i heneiddio'n ifanc yn y lle oer hwn
yn cynhesu 'ngobaith â llosgi breuddwydion ffôl fy ieunctid
A rŵan beth sydd ar ôl
ond cofion cyrff marw a lluwch

Rhywbryd, aeth fy llinyn arian i lawr llwybr cam
a des i ben yma, yn y dyffryn oer tawel hwn
sydd yn marw ac yn sychu
sydd yn sugno mywyd i i ffwrdd

A pheth sydd wrth ben y dyffryn hwn
ond dwrn mawr a chryf
fydd yn fy chwalu fi
fel y chwalodd pawb arall oedd yn gâr imi

Pwy fydd yn taflu lluwch f'olion i i'r gwynt
Pwy fydd achub cofion f'oes i i'r tragywydd angwybodadwy
rhyw ddieithryn
Na'n siŵr

Sneb sydd ar ôl erbyn hyn
ac yn fuan, yn rhy fuan
ar ben fy hun
byddaf yn cau'r siop

Fydd yn oerni
ac yn pydru
fel holl gofion a chofebion
bywydau enaid pob dyn a dynes