dimecres, de setembre 06, 2006

Mae caru yn bwnc cas... (Welsh)

Y gwir yw, fydda'i fyth yn eu deall, y blydi cariadon a'r cariadon a fyddai...

Maen nhw i gyd yn dod o blaned arall, bell, angwybodadwy...

Dwy flynedd, dwy ffachan flynedd!

Dwy flynedd yn ôl, aethon ni allan i gael pryd o fwyd mewn tŷ bwyta gwych, enwog yn y cylch yma, os dim yn fras. Dewisiodd o, dim fi, roedd yn iawn, roeddwn i eisiau bod yn gyfeillfgar, yn groesawgar. A dweud y gwir yn onest, doedd y bwyd ddim mor braf â'r holl sôn, ac hyd yn oed yr oedd o yn ddigon neis y prynhawn hwnnw, ac roeddwn yn ceisio bod mor lyfli â'r wawr, o'r olwg, ffaelais i, y tro hwnnw fel nhw i gyd 'ta. Yn ei ôl o ta waith...

Heno, roedd StillNew arlein yn y stafell sgwrs. O, dwi 'di dweud rhyw hen beth wrtho fo dros y misoedd diwethaf, y gwir yw, heb ei gofio o gwbl. Ar ôl y dyddiad cyntaf, ar ôl imi ffaelu efo fo fel efo pob un arall, ar ôl iddo ddweud wrthof i (rwyf yn ei gofio rŵan 'mod i'n meddwl yn ôl dros y ddwy flynedd gas ddiwethaf yn y maes rhamantus...) pethau nad oedd yn orgyfeillgar, na, dim pethau cas oedden, ond doedd o ddim yn sôn wrthof i am ail dyddiad ychwaith, ac rwyf yn siŵr, fel rwyf yn sgwennu'r geiriau hyn ag awgrymes i wrtho fo y dylen ni fynd allan am geisiad arall...

Yr ateb?

Tawelwch...

Y noswaith honno, roedd yr haul yn gwenu o hyd pan adeon ni'r tŷ bwyta, felly roedd hi'n rhyw hanner awr 'di wyth o'r hwyraf, a roddodd mo arwydd o ddiddordeb eangach ynof i. Mae gynnon ni illdau gar bras, yntau rhyw BMW, a fi yr hen Jag, sef Blodwen, yr SJ6-Vanden Plas, ond naethon ni ddim, na fo na fi, ddod â'n ceir bras. Roeddwn, yn wir, yn disgwyl iddo ddod â'i gar fflach, oherwydd, arlein, roedd o yn siarad fel hen grach oedd yn well na fi, a hyn oedd un o'r rhesymau da nad oeddwn yn gwbl gyfforddus â fo y noson gyntaf honno) . Roeddwn i eisiau dod â Blod, ond doedd ei pheiriant awyr yn gweithio'n iawn, 'lly mi 'nes i benderfynu na fyddwn i: roedd y twydd yn boeth, o hyd, neu yn barod... rwyf yn ei ddweud fel'na oherwydd dwi'm yn cofio taw'r gwanwyn ta'r hydref oedd hi yr adeg'na...) . Aeth o yn syth, yn gyflym o'r tŷ bwyta i'w gar bob dydd heb roi ei law heblaw ei wefusau...

A heno, fi wedi anghofio'n llwyr pwy oedd o (does dim proffeil efo'i enw sgrîn, gyda llaw, heb sôn am lun...), am ryw reswm, ella, oherwydd y cwmwl bourbonaidd yn fy mhen, penderfynais i ddweud rhywbeth dwl wrtho am sut nad oedd o'n newydd o bellffordd erbyn hyn, yn benodol oherwydd mae'n defnyddio'r blydi enw sgrîn "StillNew", ac yntau yn son am sut nad oeddwn i eisiau ail pryd o fwyd!!

Pam rŵan, o'r holl adegau?? Ar ôl dwy flynedd o fethiad claf, ar ôl i mi credu yr oeddwn wedi syrthio mewn cariad, dim unwaith, ond DWY, a cholli illdau.. Pam fyddai fo'n dod yn ôl heno efo'r neges hon? A hyn ar ôl y clecs bach i gyd y cafon ni yn y stafell sgwrs, pethau bychain yn mynd yn ôl ac ymlaen tros yr amser'ma maith i gyd? Mae'n wir, anghofiais fo, mwy na lai. Ychydig o wythnosau yn ôl, roeddwn yn siarad ag Anna a mi wnes i son amdano oherwydd roedden ni'n son am dŷ bwyta arall oedd yn perthyn i'r un perchennog sy newydd gau, a mi wnes i gofio amdano am eiliad, ac yna fel ysbryd y nos, oedd o wedi ffoi yn ôl i gefn fy meddwl

Ond o hyd, rwyf yn dod yn ôl i'm cwestiwn gwreiddiol, pam? Pam rŵan? Pam heno, pan mae fy mhen fy mhlu dros y pwnc o garu, a pham daeth yn ôl i roi'r bai wrth fy nhraed i?