dissabte, de desembre 25, 2004

Nadolig - erbyn hyn amser da (Welsh / Cornish)

Wel dyma'r Nadolig...

A Nadolig da ydyw hefyd; dwi ddim yn gallu cwyno amdano o gwbl. Codon ni am amser rhesymol y bore hwn, am 8 o'r gloch i agor anrhegion. Mi gefais anrhegion da oddi wrth fy mrawd a'm mam. Wedyn daeth y gymdoges am te'r bore efo mam, heb ddim merch. Wedyn am hanner dydd, aethon ni i gyd i Meadowbrook, i ogledd Tannersville, ty bwyta a gwely a borefwyd a fferm ceffylau. Mae'n lle sophestigedig iawn iawn. Mae gan yr ystafell fwyta paent beits a glas dwfn, efo tri alcof fel nythoedd bychain yn y corneli lle mae pobl yn gallu eistedd a chymryd pryd o fwyd.

Aethon ni yno y tro cyntaf dros Wyl y Dydd Diolchgar. Canfyddasai fy mam y lle trwy hysbyseb yn y papur newyddion lleol, ac roedd profiad da gynnon ni y tro cyntaf ychydig o wythnosau yn ôl, felly penderfynodd hi fwcio bwrdd dros y Dolig, ac roedd yn dda iawn unwaith eto.

Daeth Carol a'r ferch Susie efo ni y tro hwn, ond roedd Susie yn haws o lawer i'w sefyll, efallai oherwydd mi ges i martini Grey Goose mawr i'w ddechrau a gwydraid o win coch, Shiraz i'w yfed yn ystod y pryd. Ta waith, roedd bwyd da gynnon ni a chafon ni sgwrs da iawn yn ystod y pryd hefyd. Rwan, rydyn ni wedi dod yn ôl i'r ty i ymlacio trwy weddill y prynhawn. Fi, dwi'n cadw at yfed gwin coch a phrynais i ddoe i fyny yn Tannersville. Gwin coch o Slofenia ydyw o'r enw Avia. Gwin rhad iawn ydyw, ond ta waith â blas da, felly mae'n bleser i'w yfed. Dim byd arbennig ydyw, ond yn weddol ac yn ddigon da i'w fwynhau.

Heno, bydd y gymdoges a'i merch grach yn dod yn ôl i gamblo - chwarae yn unig y bydd, ond ta waith, bydd yn rhaid imi fod yn feddw tipyn bach i sefyll ei phresenoldeb dros lawer ta waith. Yfory, bydd cyfeillion y teulu yn cyrraed yn y prynhawn ac wedyn byddaf yn mynd i ymweld â'm cyfeilles hynaf, Theresa, rhywn mod i wedi'w hadnabod ers mwy na phump ar hugain blynedd!

Yn Gernyweg:
Nadelik Lowen ha Blydhen Nowydh Da 2005 dhe onan hag oll!!