diumenge, de febrer 20, 2005

Dyddiau Gwych (Welsh)

Mae hi wedi bod yn benwythnos braf ebryn hyn, a dim ond hanner ffordd trwyddo hefyd. Roedd nos Wener yn wych, hyd yn oed efo Carolyn ar f'ochrau. Cyrddon ni yn McGuire's sydd yn dy bwytaf dosbarth cyntaf yn Lark Street, "pentref" Albany, sef ardal fwrjwâ yn nghanol y ddinas. Cafon ni fartinis gwych a fi wedyn Scotch da iawn cyn teithio hyd stryd i fflat Jon a Kim a pharataodd bryd o fwyd ardderchog: cyw iâr lemwn, gwyrddion y De, a thatws wedi pobi dwywaith am brifplat, ac wedyn cacenni pwdin siocled poeth fel melysfwyd. Roedd gynnon ni win coch a gwyn oedd yn flasus hefo'r pryd hefyd, ac i orffen y noswaith, aethon ni Enoteca Antica, bar gwin Spaenig hefyd yn Lark Street a chafon sgyrsiau da iawn dros ambell botelaid o win coch o La Rioja. Ar ôl imi gyrraedd yn saff yn ôl gartref, mi gefais ymweliad o gyfaill hwyl i orffen y nos yn berffaith fel pin mewn papur. Roedd yn nos fendigedig yn wir.

Wedyn, ar b'nawn Sadwrn, aeth Anna a fi yn hela am drysorau, ac aethon o ben draw'r ardal i'r llall i'n holl siopau hoff. Canfyddais i lawer o bethau bach i'r ty ac wedyn aethon ni'r bwffé Tseina yn Niskayuna am bryd o fwyd. Rhention ni wedyn DFD, sef Japón. Roedd yn edrych yn wych o'r olwg cyntaf, ond roedd yn wael iawn ym marnau Anna a fi, yn arbennig y sîn rhyw rhwng y prif gymeriadau oedd yn wr canol oed a hen fenyw. Hen hen fenyw. Hen fenyw dlawd sy'n by mewn bwthyn tlawd mewn bryniau sych Mecsico. Dydy'r ffilm ddim yn egluro pam yn wir mae'r dyn canol oed wedi dod i'r canyon lle mae hi'n byw tu hwnt i'r cyfafeddiad a wneith y dyn yn dweud yr aiff i'r pentref bach i hunanladd. Mae'n dod i ben efo marwolaethau'r hen wraig a'i theulu mewn damwain tractor pan roedd y tractor yn tynnu llwyth o garreg enfawr oddi ar ei thy i bentref cymdogol, ac yn eironig mae'r gwr yn fyw o hyd, yn wylo dros farwolaeth yr hen wraig heb lwyddo hunanladd o gwbl.

Yfory yw Gwyl yr Arlwyddi, felly mae'r Coleg ar gau, ac bydd dydd rhydd gen i. Rwyf am weithio ar y traethawd y fory, a byddaf, ond hefyd mynd allan am ginio efo Nathalie a wnaf. Dylai'n sgwrs ni fod yn ddiddorol oherwydd mae hi'n meddwl am ysgaru'i gwr. Drama ymhobman o'r olwg, tu hwnt yn fy myd bach clyd, hihi.

A chynlluniau'r tai? Ydyn, maen nhw'n bwrw ymlaen yn weddol. Yfory byddaf yn sgwrio â'r fancwraig i weld os wyf yn gallu atgyfnerthu'r mortgeision a'r cardiau credyd i mewn i un mortgais mawr ac yn rhetach na beth wyf yn ei dalu rwan. Os yw cynhysgaeth o'm plaid, byddaf yn byw yn y ty hwn ar fy mhen fy hun cyn hir ac enill mwy o bres ar yr un tro.