dijous, de març 24, 2005

Yr Hen Ysgubor (Welsh)

Mae hen ysgubor yn fy meddwl; mae'n gorwedd mewn glyn cysglyd bach, lle mae amrywfath o goed - o'r lleiaf un enghraifft o bob coeden a phob planhigyn y sonier amdanon nhw yn y Câd Goddeu, oherwydd mae'r ysgubor hon yn hudol, yn bod yn nhirogaethau ysbrydol diwethaf fy mod, ffriddiau fy mod yn wir lle mae fy myd naturiol ffigurol braidd yn wyllt o hyd. Mae nant fechan sy'n llifo ac yn canu'n glir trwy'r glyn hefyd, jyst tu ôl i'r ysgubor, ac wrth ochr y nant mae hen helygen enfawr yn plygu i lawr tuag at y dwr, ei dail yn llifo'n dawel ar gopâu tonau sisial dwr y nant fel y mae'n mynd heibio. Mae tipyn bach o borfa las hyfryd sy'n tyfu ynghylch yr hen ysgbor, ei phren yn llwyd ag amser, a llechi ei tho mor drwm ei fod o fel cefn bwa. Mae rhan isaf yr ysgubor yn garreg, hen garreg llwyd mwsoglyd. Mae gwydr ei ffenestri yn hen iawn, yn donaidd tipyn bach fel dwr y nant.

Ar y tu mewn, mae'r ysgubor yn enfawr, lle gwag du efo lampau tân bychian yn goleuo'r preni sy'n dal yr hen le i fyny. Mae ychydig o olau yn dod i mewn trwy'r ffenestri, ond dim llawer; mae coed y glyn yn cadw'r lle i gyd yn gysglyd.

Yma mae ysbrydion.

Mae cofion pobl fy nghorffenol yn ymweld â fi yma, ac heddiw mi welais i ddau ffrind o Lydaw. Hen ffrindiau, dim oherwydd 'mod i wedi eu hadnabod nhw ers amser mor faith, ond oherwydd hen bobl ydyn nhw, yn eu hwythdegau rwan, ac yn marw. Roedd delwedd Jean yn grefaf, yn grefach o lawer na Marcelle, ei wraig. Roedd y llun a ddatblygir yn yr hen ysgubor yn un o wyl, fel y prydiau o fwyd y cefais i yn eu ty. Roedd bwyd a gwin da, roedd canu a sgwrs, gwenu a chyfeillgarwch.

Roedd y peth oll yn freuddwyd ar ddeffro, breuddwyd gwych. Fy meddwl yn chwarae gemau â fi? Efallai, ond os ydy'r ffiseg cwantwm yn iawn o gwbl, mae Jean, Marcelle a fi, y gorffenol, y dyfydol, a delwedd yr hen ysgubor a'r gwyl oedd ynddi yn un. Mae hen gyfeillion annwyl Andel yn Llydaw yn farw yn barod, ond o hyd yn ifanc, yn bod mewn amser pan nad oedden nhw yn f'adnabod i. Mae eiliad cwantwm, neu ddigwyddiad cwantwm lle maen nhw, a fi, yn bod yn wir yn yr hen ysgubor. Wrth gwrs rwyf yn gallu eu dychmygu nhw yno, ond y peth rhyfedd ydyw nad oeddwn yn wir yn meddwl amdanon nhw; daeth eu delwedd i'm meddwl yn sydyn, bron fel roedden nhw eisiau bod yno, yn mwynhau, yn yr hen ysgubor, fy hen ysgubor.

Beth ydy hwn yn feddwl? Efallai dim byd o gwbl. Ond efaillai mae hwn yn neges o rywfath. Rwyf yn ddigon siwr na fyddaf yn gallu eu gweld nhw'n fyw unwaith eto cyn iddyn nhw ymadael, ond o'r lleiaf rwyf yn gallu mynd i'r hen ysgubor, ac efallai, caf i gyfle eu gweld nhw.