dilluns, de març 28, 2005

Fy Nghariad Cwantwm (Welsh)

Mi fum i ym Mhennsylfania dros y Sul. Sul y Pasg ydoedd, ac roeddwn i wedi mynd i dreulio'r gwyl efo'm teulu, hyn yw efo fy mrawd a fy mam. Nos Sadwrn mi ges i freuddwyd cryf, od, rhyfedd. yn y breuddwyd, rhywun arall yr oeddwn i, rhywun yn hollol wahanol i bwy rwyf yn y byd deffro. Roeddwn yn dalach am un peth, â gwallt brown wedi'w dorri'n fyr iawn, ac mwy na hynny, roeddwn yn denau. Nid wyf yn denau o bell ffwrdd yn y byd deffro. Yn y breuddwyd perchenog clwb oeddwn i, clwb hoyw, lle roedd dynion yn dod i yfed ac i fwchio. Roedden nhw'n gallu bwchio yng nghanol y clwb petasen nhw eisiau hyd at hynny, felly fel un o'r clybiau hoyw mawr sydd yn y dinasoedd, neu fath o dy baddon fel yr un sydd gynnon ni yn Nhroia gerbron; hyd at hynny, doedd y lle yn enfawr ychwaith. Pob dim yr allwn i ei weld oedd y brif ystafell lle roedd y bar a'r bwchio.

Tu ôl i'r bar roedd llanc yn gweithio, gwas y bar oedd. Roedd o hefyd yn dal, yn denau, â gwallt du wedi'i liwio'n felynaidd rwyf yn feddwl. Fy nghariad oedd o. Neu, fy nghariad y mae o. Fy nghariad cwantwm.

Oes gwahaniaeth rhwng cariad ffug, cariad ffantasi a chariad cwantwm? Oes, a nag oes. Dywedeodd Linda Goodman mewn llyfr a ddarllenais i amser maith yn ôl, ei deitl yr anghofiais i rwan, "It doesn't matter unless you mind."

Felly, mae ffantasïau yn bod yn y byd cwantwm, yn y meddwl, fel mae'r byd allanol yn bod hefyd. Yr unig wahaniaeth yw ein bod ni'n credu fod y byd allanol yn wir, a bod y byd mewnol yn ffug, ond mae popeth yn un, felly mae'r gwir a'r celwydd yn cysgu gyda'u cilydd yn hawdd: y gwir yw, does dim ffin da rhwng y ffug a'r gwir tu hwnt i beth rydyn ni'n ei gredu.

Ond yn ôl rwan i'r breuddwyd... wrth ddiwedd y breuddwyd a diwedd nos y clwb, dringon ni lan y grisiau a gorweddon ni yn yr un gwely, fi yn ei ddal o, ei gefn yn erbyn fy mrest. Roeddwn yn gallu teimlo gwres a chaletrwydd ei gorff yn f'erbyn fel growedden ni yn y gwely'no, y dduwch ddofn. Roedd ychydig o eiriau rhyngddyn ni cyn i ni huno - dwi ddim yn eu cofio nhw rwan, ond rwyf yn cofio teimlad y geiriau hyn. Roedden nhw'n garedig, roedden nhw'n gynnes. Wedyn daeth y breuddwyd i ben.

Yn y bore, a thrwy'r dydd hyd at hyn, roeddwn yn meddwl ei gorff yn gorwedd yn fy mreichiau, ei felysrwydd, ei gariad cywir. Doedd dim ffordd imi wybod os oedd y cariad hwn yn un hen neu un newydd, un hir neu un byr, ond yn yr eiliad yno, yn y breuddwyd, roeddwn yn hapus yn llwyr, yn ddwfn. Rwyf yn cofio'r teimlad o hyd, teimlad unoldeb, teimlad hedd, teimlad llawen. Roedd o yn berthyn i mi, a fi iddo; roedden ni wedi dofi ein hunain, fel mae'r Tywysog Bechan yn ddweud, felly, o'r lleiaf yn ystod yr eiliad hwnnw, roedd mwy rhyngddyn ni na'r rhyw.

Roedd y breuddwyd a'r teimladau mor gryf, mor annisgwyl y rhoddais i'r enw "Fy Nghariad Cwantwm" arno. Oedd o'n wir? Yn y synhwyr cwantwm, oedd. O'r lleiaf roedd o'n bod yn fy meddwl, efallai dim mwy na hynny: f'ymenydd yn creu senario lle roeddwn yn gallu profi rhyw ychydig o lawenydd sy ddim ar gael imi rwan yn y byd hwn, yn gwella clwyf 'mod i'n ei gario yn nirgel ddyn fy nghalon, clwyf sy'n tarddu o amhosiblrwydd 'mod i'n ei sylwi. Efallai taw ffug oedd o, a dim byd mwy na hynny.

Ond efallai, roedd y dyn tal tenau yno yn un ohonof, rhan arall o'r profiad casgliedig mod i'n chwarae rhan ynddo, mae yntau a fi yn un bod, ac mae o wedi canfod rhywbeth na allwn i'w ganfod. OS yw popeth yn un yn barod, mae hwn yn bosib... yr unig gwestiwn sydd ar ôl yw beth yw'r bersonoliaeth? Pa mor hir a pha mor unedig ydyw. Ar ôl imi farw, ydy fy mhersonoliaeth yn symud ymlaen i ryw gyd-destun arall, rhyw brofiad gasgliedig lle mae ymwybyddiaeth y bersonoliaeth yn aros unedig i gael ei hailgylchu mewn ffasiwn? Dyna beth mae ailymgnawdoliaeth yn ei awgrymu i ni, hyd yn oed mae'r traddodiad cristionogol yn awgrymu bod y bersonoliaeth yn aros yn unedig os dim ond i fod yn was i'u Duw.

Mae theori cwantwm yn awgrymu nad oes gwahaniaeth rhwng y gorffenol, y presenol a'r tyfodol, felly rwyf wedi marw yn barod, a wedi byw can bywydau a mwy, efallai miloedd, neu filiynau os ydyn ni i gyd yn un bod yn barod. Felly wrth ddiwedd y gân, oedd, roedd fy nghariad cwantwm yn wir, ac roedd y teimlad oedd gen i yn wir hefyd. Efallai un dydd, bydd y bersonoliaeth hon yn canfod yr un fath o gariad, o'r lleiad am eiliad, cyn iddo ymuno unwaith eto y Cwestiwn Mawr.