dissabte, d’abril 02, 2005

Amazing Grace - Pererin Wyf (Welsh / English)

Heno roedd chwerthin a wylo, chwerthin am ben gwrthuni'r byd, a wylo dros golledau fy mywyd, colledau bywyd, stop llawn.

Roeddwn yn gwrando ar raglen CMT, 20 Greatest Country Songs of Faith, a dechreuais i feddwl am fy ngorffenol ynhylch yr eglwys gristionogol. Cefais fy medyddu mewn Eglwys Lwtheranaidd oherwydd ganwyd fi mewn ardal Almaenig yn Mhennsylfania, ond nid oedd fy nheulu fi'n grefyddol yn wir. Roedd teulu fy nhad yn Gymry tepyg yr oes, yn drwgdybio cred mwy na'i chredu, ac i fod yn Lwtheranaidd yn ein ardal ni oedd yn meddwl yr un peth â bod yn ddyn neu'n ddynes, neu anadlu, neu gachu - roedd pawb oedd yn berson go iawn yn Lwtheranaidd. Felly nid oedd cred ddim yn beth mor bwysig i ran fwyaf ein teulu, tu hwnt i un chwaer fy nain; hithau oedd y Cristion mawr yn y teulu, y Credwr, a hithau oedd yr oedd i'm tywys fi tuag at y "golau." Ond dim Lwtheraniad oedd hi, ond Methodistiad felly hyd yn oed yn ei Christionogiaeth oedd yn ddynes ysgymun. Wrth gwrs, doedd y swyn ddim yn gweithio, diolch yn fawr i'r Iaith Gymraeg.

Pwnc llosg i flog arall, ond oherwydd y Gymraeg, dechreuais i droi fy nghefn ar Gristionogiaeth ac o'r diwedd i lwybr yr Hen Gred a'r Undodwyr. I ddweud y gwir yn onest, dwi ddim wedi bod yn Baganiad da ers talwm rwan, ers imi golli bob ffydd yn ystod yr Oes Panico. Rwyf wedi bod ar ymchwil ers y tro hwnnw, dim i ailganfod fy ffydd, ond i ganfod y gwir. Ymchwil pob bod sy'n meddwl tybed, a fi heb fwy o lwc na neb arall wrth gwrs, ond fel Undodwr, dwi ddim yn gallu, hyn yw, rwyf yn ffaelu credu'r syniad syml sy'n cael eu canu yn y cerddi hynny, gwaetha'r modd.

Un peth y dysgais i hyd lôn oedd mae dealltwriaeth yn dod â thangnefedd; mae gwybodaeth yn dod ag atebion a mwy o gwestiynau. Does dim ond dy galon di hun, y dewis yn wir, sydd yn dod â bodlondeb, ac mae hyn yn mynd ac yn dod yn igam-ogam trwy'th oes.

A pha mor hyfryd y byddai petaswn yn gallu rhoi'r gorau i'm holl wybodaeth a chredu fel y maent, neu yn well i ganfod tangnefedd trwy dderbyn y bydysawd fel y mae a chanfod yn wir dealltwriaeth.

Pererin Wyf

Pererin wyf mewn anial dir
Yn crwydro yma a thraw,
Ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
Fod ty fy Nhad gerllaw.

Ac mi debygaf clywa' i swn
Nefolaidd rai o'm blaen
Wedi concwero a mynd trwy
Dymhestloedd dwr a thân.

Tyrd, Ysbryd sanctaidd, ledia'r ffordd,
Bydd imi'n niwl a thân;
Ni cherdda' i'n gywir hanner cam
Nes elost o fy mlaen.

Mi wyraf weithiau ar y dde,
Ac ar yr aswy law;
Am hynny arwain gam a cham
Fi i'r Baradwys draw.

Mae hiraeth arna' i am y wlad
Lle mae torfeydd di-ri
Yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes
Am angau Calfari.
- William Williams Pantycelyn (fersiwn Cymraeg Amazing Grace)

O.N. Pa mor ddiddorol ydyw bod teitl y gân hon yn meddwl mwy i mi n'ar fersiwn Saesneg, lle mae gynnon ni Amazing Grace mae Pererin Wyf yn meddwl, "I am a pilgrim."