divendres, d’agost 26, 2005

Un noson olaf o leuad (Welsh)

Heno mi es i allan i weld yr hogia. Pam? Penwythnos diwethaf cyn mynd yn ôl i'r frwydr ydyw, pan fydd yn rhaid imi fynd allan yn unig dros y Sul a byth yn ystod yr wythnos - nid 'mod i'n mynd allan yn ystod yr wythnos yn aml ychwaith. Mae'n blino, mae'n farw yn ystod yr wythnos. Hyd yn oed yn ein cymuned ni mae'r hogia yn arfer gweithio trwy'r wythnos, dim ond y rhai ddiog neu'r rhai fel fi sy'n gweithion yn yr addysg sy'n crwydro'r bars yn ystod yr wythnos. A fi, dwi ddim yn eu mynychu'n rhy aml ychwaith. Does dim lle yn y byd mor ddigalonu na ryw hen far ar noswaith Fawrth, a hon yw'r gwir yn onest.

Ond pam rwyf yn mynd allan o gwbl, 'na'r cwestiwn mwyaf. Rwyf yn dod o fyd arall. hen fyd lle mae ffordd i drin popl trwy'r amser - ffyrdd i 'neud iddyn nhw deimlo'n hapus i fod yno. Dyna hen dalent ar goll dyddiau hyn. Mae'r bars mor sglyfaeth, a fi heb yr asgwrn i fod mor hyll a'r lleill.

Roedd cyfaill yn sôn wrthyf yr oedd o am fynd allan heno, ond wrth gwrs, wnaeth o ddim. Mor anodd ydyw i gadw addawiad, ond ydy? Fi, mi es i efo poen yn fy stumog ar ôl cinio, gormod o stres ydyw neu fi sy'n mynd yn hen. Ta waith, mi es i, a mi ganais i: Luz de Luna ( tôn gam, diolch Shawn), La vie en rose (yn Saesneg, diolch unwaith eto Shawn), a Crazy, yr unig gan oedd yn weddol wedi'r cwbl.

Ac mae'r lle yn dwll hefyd! Roedd yr hen lanc tu ôl i'r cownter yn cynnig y gin cyntaf imi am $6. Wedyn gofynnodd wrthyf petaswn yn gyfaill i Shawn, y boi oedd yn rhedeg y periant Carioci. Yndw, wedes i (rwyf yn siarad ag o yn aml ar lein). 'Lly rôl 'ny, roedd yn siarsio $7! Yr hen sglyfaeth! Ac yn cymryd ennyd hir i gynnig diod aral hyd at hyn!

A does dim gen i'r atyniadu sydd yn eu gwylltio yn y bar 'chwaith. Ac a dweud y gwir yn onest dwi ddim yn edrych am ffyc brys. Rwyf yn gwybod na fyddaf yn canfod serch fy mynwes mewn lle mor ddu a hyll â hyn. Ta waith, rwyf yn mynychu'r llefydd er i fod yn rhan o'r gymuned, i gael fy ngweld ynghylch fy llwyth.

Fy llwyth.

Pa felltith

Fel fy nheulu, rhywbeth i guddio dan glo - dim eu derbyniadiaeth gymdeithasol ychwaith, ond eu gwirionedd - eu gwacter, eu duwch, eu hangen ddofn am rywbteh mwy a'r amhosiblrwydd o'i chael.

Ac efo nhw, fy ngwacter, fy nuwch, f'angen i...

Ta waith, rwyf yn ôl yn y nyth rŵan, yn fy nhŷ, lle mae'r hen atgofion, yr hen bethau cyforddus sydd yn f'atgofio i'r hen bobl a fu a roeddwn yn eu caru, ac oedd yn fy ngharu fi yn ey ffasiwn, yn llenwi'r lle. Mae'r nyth yn lle llawen ar ôl yr holl wacter a'r holl dduwch tu allan...