dilluns, de gener 24, 2005

'Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd... (Welsh / English)

Mae'n dwp, ond ydy, bod cân yn gallu 'neud i di feddwl am rywbeth. Daeth cân Reba McEntire ar y radio heddiw fel roeddwn yn gyrru i'r swydda, sef The Greatest Man I Never Knew. Gan wrando'r gân, dechreuais i feddwl am fy nhad, sydd rwan mewn byd arall, os oes byd arall i fod ynddo...

Bu farw 'nhad i bron tair mlynedd yn ôl rwan. Dyn trist oedd o drwy'i oes i gyd, yn dioddef o afiechyd seicolegol, sef GAD. Roedd ofn arno fo fyw yn wir. Rwyf yn cofio nad oedd yn gallu mynd i'r siopau ar ei ben ei hun i brynu'i ddillad. Roedd yn rhaid i fam ei wneud drosto. Yr un chwedl oedd efo mynd i'r banc, neu allan i fwyta. Tra roeddwn yn hogyn bach, nid wyf yn gallu cofio mwy na ddwsin o weithiau yr aeth yntau a fy mam allan i dy bwyta; yr unig dro yr oedd yn digwydd fel arfer oedd pan ddeuai'u penblwydd priodas.

Doedd dim llawer o Gymraeg rhyngddo fo a fi ychwaith. Roedd o'n ddyn pell, yn oer ac ambell waith roedd o'n greulon, yn ddig llawer gwaith. Am beth, doedd neb yn gwybod. O'r tu allan dylai fo wedi bod yn hapus. Roedd gwaith iddo, roedd ei iechyd yn weddol, roedd teulu a thy ganddo. Mae'n wir yr oedd blynyddoedd main ynghylch yr unau go iawn, blynyddoedd pan nad oedd digon o bres i gario ymlaen o fis i fis yn ddibryder, a thrwy lawer o amser, roedden ni'n dibynna ar dân pren i wresu'r ty yn ystod y gaeaf oherwydd doedden ni ddim yn gallu fforddio'r olew i'r ffwrnais. Hyd yn oed, doedd dim ffwrnais gynnon ni dros amser maith, ond stôf pren yn ei le, a'r pren i gyd yn dod o'r coed tu ôl i'n ty. Oedd, roedd blynyddoedd main, yn byw ar fwyd o'r llywodraeth sef caws, llaeth sych, a bwydydd sych eraill fel'na, oedd yn dod yn rhydd ac am ddim o'r llywodraeth i fwydo'r tlodion, i'n bwydo ni.

Doedd fy mam ddim yn gweithio, hyd yn oed y dylai hi, ond chwedl i amser arall fydd hwn.

Treuliodd fy nhad ei ddyddiau i gyd yn gweithio mewn swyddi anodd nad oedd yn talu llawer o bres. Graddiodd o o'r ysgol uwchradd, ond nid aeth o ymhellach na hyn, ac rwyf yn siwr rwan yr oedd hynny oherwydd ei ofn. Dyn claf oedd o wedi'r cwbl, heb lawer o allu i dorri'n rhydd o'r pethau drwg yn ei fywyd.

Y gwir yw un o'r pethau drwg oedd eu deulu, ni. Dylai hynny fod yn anaws o lawer i ysgrifennu, ond yn wir, dydy hi ddim. Ar ôl bod i ffwrdd o'm teulu, rwyf yn gallu'u gweld nhw yn glirach. Od ydyw, ond ydy, bod dyn yn gallu gweld gwir pethau yn haws o bell nag o agos, ond fel yna mae pethau.

Bu farw fy nhad yn 57 oed, dyn ifanc, a dyna beth tristach o hyd, yr oedd yn rhy ifanc o lawer i ymadael. Cyn diwedd ei oes, roedd o wedi dechrau gwella ei iechyd meddwl rhywsut. Dwi ddim yn gwybod sut, efallai roedd yn dod efo henoed, ond dechreuasai fo fynd allan efo cyfeillion o'r gwaith, a mynd ar wyliau heb fy mam, a hyn oedd achos anhapusrwydd rhyngddynt. Mae dyn yn gallu barnu perthynas fy mam a nhad fel yr oedd: yn wag, yn ddrwg, heb serch fel y dylai serch fod, a heb ryw ar ôl geniaeth fy mrawd. Arhoson nhw gyda'u gilydd oherwydd cyd-ddibynniaeth, rheswm drwg iawn i aros gyda'u gilydd, ond dewis y wneith llawer iawn o bobl.

On yn ôl i bam taw ni oedd un o'i broblemau. O'r olwg, doedd o ddim yn ffit i reoli teulu, i fagu plant. Dyn trist ac anhapus oedd, heb ddeall ei fyd yn iawn. Un dydd, a fi yn fwy nag ugain oed yn barod, dywedeodd wrthyf: "Sonny," roedd yn fy ngalw fi'n Sonny trwy'r amser, a f'enw gwir erioed," How did a guy like me end up with a son like you?" Doedd o ddim yn bod yn gas, roedd o eisiau'n wir ei wybod. Roedd o'n sylweddoli taw dyn bach oedd o, dyn drwg hyd at hyn, dyn cas, a fi oedd yn y brifysgol yn darlithio ieithoedd yn barod.

Mi atebais yn onest,"I don't know," ac yna i 'neud jôc o'r peth wedais i," I guess you're just lucky."

Bu farw ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny, a hyn oedd ein sgwrs gorau erioed, efallai un o'r sgyrsiau unig oedd rhyngddon ni. Nag oedden, doedden ni ddim yn glos o gwbl. Yntau oedd dyn ffatri, dyn dig, dyn meddw, dyn cas, a fi oedd yn wr bonheddig ifanc, wedi mynd i'r brifysgol, wedi gweithio mewn swyddi meddal yn ystod fy nghyrsiau, wedi'w fagu gan hen fenywod Fictorianaidd; roedden ni'n ddau'n byw yn yr ty ond ym mydoedd oedd yn wahanol yn llwyr. Nag oedd, doedd dim Cymraeg rhyngddon ni o gwbl.

Ac yna, roedd o wedi mynd, i'r lle, i'r peth bynnag y bo lle mae bodau'n mynd ar ôl bod, i'r Cwestiwn Mawr.

Wedodd y bardd: "Out, out, brief candle! Life's but a walking shadow, a poor player, that struts and frets his hour upon the stage and then is heard no more. It is a tale told by an idiot, full of sound and fury, Signifying nothing."

Roedd Gwasanaeth Coffa iddo, a daeth llawer o bobl o'i waith, ei fyd arall, byd nad oedden ni, y teulu, yn gwybod amdano. Roedd llawer o bobl, pobl oedd yn ei hoffi, efallai yn ei garu, a ni, eu deulu, angharedig. Syndod mawr ini oedd y gynulleidfa mawr o bobl a oedd wedi dod i gofio'm tad. Ni oedd eu broblem, ond roedd gormod o ofn arno fo i'n gadael ni fel y dylai fo wedi'w 'neud petasai fo wedi bod yn ddewr, pe nad oedd o wedi bod yn glaf.

A dweud y gwir yn onest, doedd dim tad gwir gen i, roedd tad biolegol gen i a dyn oedd yn byw yn yr un ty â fi, ond dim dyn oedd yn dad imi. Dyna fy mhroblem i, yn fodd bynnag, os problem ydy o hyd. Ac wedi'r cwbl, ydw i'n ei gasáu, yr hen wr cas oedd yn llenwi'r ystafell fyw efo mwg ei sigaréts a drewi'w gwrw? Oeddwn, roeddwn yn ei gasáu'n ddwfn, yn gweddïo y byddai fo'n marw'n syth ymlaen, yn melltithio'i enw. Ond roedd hyn i gyd yn amser maith yn ôl. Mae pob bachgen bach am dad i ofalu amdano, a fi oedd yn fachgen bach unwaith, ond dyn mawr ydw i rwan, a maddheuais i fo amser maith yn ôl, hyd yn oed cyn iddo farw. Ydw i wedi dweud hyn wrtho? Naddo, wrth gwrs, rwyf yn siwr na fyddai fo wedi deall. Roedd yn ddigon imi nad oeddwn yn ei gasáu mwy, hyd yn oed canfyddais i dipyn bach o gariad iddo. Yr oeddwn yn sylweddoli taw dyn claf, trist oedd o, ac yn dristach o hyd oedd y bu farw ar yr un pryd yr oedd o'n dechrau tyfu'n ddyn hapus, dyn dewr. Dwi ddim yn gwybod yn llwyr, a fydda'i ddim yn ei wybod rwan, pam dyn mor drist oedd o. Mae'n siwr nad oedd ei rieni ddim yn dda iddo ychwaith, a felly etifeddiaeth anodd roedd ganddo. Efallai roedd profiadau ei fywyd yn rhy anodd iddo gario ymlaen yn ddyn llawen. Pwy a wyr?

Mewn hedd y mae o rwan, rwyf yn tybio. Mi gariodd fy mrawd a fi ei olion o'r arlosgfa i'r coed tu ôl i'r ty lle treuliasai fo gymaint o amser yn torri'r coed ini gael gwres yn y ty, ei goed o. Efallai yno oedd lle "daeth o at ei goed" ei hunan, a phenderfynu codi bywyd hebddon ni, bywyd lle gallai ganfod ychydig o lawenydd. Yna yw lle mae ei olion o hyd, yn bwydo'r byd naturiol lle gweithiasai gymaint cynt, wedi mynd yn ôl i'r tragywydd. Trueni nad oedd o ddim yn dod at ei goed cynt...

I gloi, mwy o eiriau'r bardd: "The quality of mercy is not strained; It droppeth as the gentle rain from heaven upon the place beneath. It is twice blessed- It blesseth him that gives, and him that takes."