dimarts, de gener 11, 2005

Yn rhydd o'r diwedd (Welsh)

Yn araf deg, mae'n marw, a pheth bendigedig ydyw hefyd. Roeddwn yn sicr y basai, un dydd, petawsn i aros am amser digon hir. Beth sydd yn marw? Hen freuddwyd. O pa mor hir, pa amser mor faith yr arhosaswn i ymadawiad hwn ddechrau, ac o'r diwedd, y mae. Pa fath o hen freuddwyd? Hen freuddwyd o fy ieunctid, breuddwyd sydd yn tarddu o hen amserau, ac yn ei ffasiwn sydd wedi dod yn hunllef.

Unwaith, roeddwn yn credu yn serch, yng nghariad cywir. Rwyf yn gwydod rwan paham credwn mewn peth fel yna, oherwydd roedd cymaint o straeon, mewn llyfrau, ffilmau, ar y teledu, yn dweud yr oedd cariad fel yr hwn yn bod. Roeddwn yn credu hefyd yr oeddwn yn adnabod pobl oedd wedi canfod y fath hon o serch. Ond, dyna'r broblem efo breuddwydion syddyn cael eu codi ar syniad, meddylrithau cam. Celwydd canfyddiad ydyw. Rydyn ni'n gweld pethau yn ein byd, ac rydyn ni'n ceisio eu deall. Rydyn ni'n gwrando ar bobl eraill, ac rydyn ni'n clywed hel straeon o fan i fan, ac rydyn ni'n mynd ymlaen yn creu ffug sydd yn ymddangos egluro'r gwir. Dyna beth a wnais hyd at gariad.

Am rai, mae cariad cywir yn bod. Maen nhw'n canfod rhywun yn y byd sydd yn teimlo cariad mor gryf amdanon nhw â'r cariad eu bod nhw'n ei deimlo. Nid wyf yn siarad am basiwn yma, nag am ramant ychwaith. Rwyf yn siarad am gariad. Ambell waith, gweithiau prin, mae'r cariad hwn yn canfod ei hun yng nghylch perthynas rhywiol, ac mae gynnon ni wedi arddangos, cariad cywir fel yr hwn sydd yn bod yn yr holl straeon, ond peth prin ydyw, a dim ond cyd-ddigwyddiad ydyw, damwain.

Yn fodd bynnag, fel bachgen, roeddwn yn credu yr oedd y fath hon o gariad yn bosib i bawb, ond rwan, fel dyn, rwyf wedi dod i bwynt lle rwyf yn sylweddoli'n rhesymol nad yw hwn yn digwydd. Oes, mae cariad yn byd. Mae llawer o bobl fy mod i'n caru atyn nhw, a chariad gwir ydyw. Mae rhai o rain yn fy ngharu fi hefyd. Mae'n dod ar ôl profiadau cyffredin, amser maith yn yr un lle, neu yn yr un gwaith. Mae dod efo amser a phrofiad, ac nid oes coup de foudre fel yn yr hen ramantau Ffrengig. Mae perthnasau sydd yn dechrau â coup de foudre yn fwy rhywiol na ddim, ac os nad ydyn nhw ddim yn dod yn rhywbeth mwy, maen nhw'n marw'n chwerw, ond nid yn gyflym o orfod.

Hefyd, mae gen i bethnasau rhywiol, ac ambell waith, mae rhain wedi cymryd agwedd emosiynol oherwydd meithder yr amser o gwrdd, o fod gyda'n gilydd. Yn anffodus, fy f'achos i, mae'r agwedd hon wedi dod oddi wrthyf yn unig, ac nid oedd cyfatebiad gwir oddi wrth y person arall, o'r lleiaf, nid hyd yr oeddwn yn ymwybodol ohono.

Hyd at y perthnasau eraill y yn byd, y bobl sydd yn cwrdd ac yn byw gyda'u gilydd am flynyddoedd hir, neu yn priodi, mae rhai, ychydig iawn baswn i'n ddweud o'm profiad i, yn tarddu a'r fath gyntaf o gariad y soniais amdani, y serch sydd yn dod o feithder amser. Mae mwyafrif o ohonyn nhw yn tarddo o angen neu eisiau seicolegol, neu gymdeithasol - i gael gwr neu wraig hardd, cyfoethog, pwysig, neu i gael plant, teulu, cadw'r traddodiad crefyddol, ayyb. Neu, yn syml, mae'n nhw'n tarddu yn unig o gyd-ddibynniaeth. Mae rhai yn y bydd sy ddim yn gallu cario ymlaen heb gymar. Nid wyf yn dweud y dylai pobl fynd ymlaen yn unig yn llwyr. Mae'n rhaid i ni gael pobl yn ein cylch, cyfeillion, teulu, cyd-weithiwyr ayyb. Ond, os nad ydyn ni am fagu plant, i lawer iawn o bobl, nid oes rhaid canfod cymar, rhywun "i fod yno" fel maen nhw'n cwyno amdano bob tro ar y rhaglenni sgwrs. Basai'n hyfryd petasen ni gael cariad cywir, ond os na, rydyn ni'n alluog o gario ymlaen fel yr ydym.

Rwyf yn gwybod hyn y feddyliol, ond yn fy nghalon, mae'r hen freuddwyd creulon, yr hen freuddwyd sydd wedi fy nghaethu o fod yn llawen amser mor hir, wedi parhau ymlaen, yn fy nhynnu fi bob tro tuag at bobl sydd ddim yn llawn o hapusrwydd, sydd ddim yn chwilio am yr un pethau yn y byd, pobl gan mwyaf sydd yn chwilio am wobr hardd, felly nid amdanaf, neu bobl sydd yn chwilio am gyd-ddibynniaeth, hyd yn oed os nad ydyn nhw ddim yn gwybod eu bod nhw'n ei wneud...

Ond heddiw, tra eisteddwn yn fy nghadair freichiau yn syrthio'n ysgafn i gysgu, daeth meddylrith newydd imi, neu o'r lleiaf aeth o fy mhen i fy nghalon. Rwyf yn yn teimlo rwan fel rwyf yn gallu canfod hapusrwydd gwir heb gael cymar. Roeddwn yn ei wybod trwy'r amser, yn fy mhen, ond rwan, yn fy nghalon, rwyf yn ei deimlo hefyd. Rhyddid mor wych yw, roedd yn rhaid imi ddod i mewn i'r weflog ac ysgrifennu. Rwyf yn siwr nad wyf yn rhydd yn llwyr o'r hen freudwydd cas. Rwyf yn gallu teimlo rhyw nerth ohono yn dal at ochrau fy meddwl o hyd, ond o'r lleiaf mae o wedi dechrau marw.

O'r diwedd hir, rwyf wedi dechrau bod yn rhydd, yn rhydd o'r diwedd, diolch i Dduw fel mae'r hen wr yn ddweud....